Mae mawndiroedd ymhlith ein cyfeillion pennaf ni yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd - ond mae eu cloddio’n barhaus yn dinistrio miloedd o flynyddoedd o fawn cyfoethog mewn carbon. Ym mis Hydref eleni, ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth i roi terfyn ar werthu mawn. Mae arnom ni angen eich help chi i droi'r addewid yma’n weithredu.
Mae'r diwydiant garddwriaeth wedi gwneud cynnydd calonogol o ran dod yn ddi-fawn, gan leihau'r defnydd o fawn dros 50%. Ond nid yw cyflymder y newid yn cyfateb i'r brys sydd ei angen, ac mae cynnydd heb ddeddfwriaeth yn arafu. Mae'r diwydiant yn dal i ddefnyddio swm anferth o 760,000 metr ciwbig o fawn y flwyddyn - digon i lenwi mwy na 300 o byllau nofio Olympaidd.

Mae mawn yn cael ei werthu fel cynhwysyn mewn compost mewn bagiau, yn uniongyrchol i arddwyr. Caiff ei ddefnyddio hefyd i dyfu'r rhan fwyaf o'r planhigion rydych chi'n eu prynu yn y ganolfan arddio, o blanhigion gwelyau blodau a phlanhigion lluosflwydd i goed a llwyni. Defnyddir mawn hefyd i dyfu llawer o'r llysiau ffres rydych chi'n eu prynu o'ch archfarchnad leol.
Mae llywodraethau wedi gwybod am y difrod y mae dinistrio mawndiroedd yn ei wneud i'r amgylchedd ers degawdau.
Mae cloddio mawn yn arwain at y canlynol:
- allyrru symiau enfawr o garbon, gan gyfrannu'n uniongyrchol at newid hinsawdd.
- gwaethygu'r risg o lifogydd i gymunedau cyfagos, am nad yw mawndiroedd sy'n cael eu gweithio’n gallu amsugno dŵr glaw gormodol fel mae’r rhai cyfan yn gallu ei wneud.
- dileu cynefin a allai fod yn gartref fel arall i lawer o rywogaethau prin ac unigryw o blanhigion, pryfed ac adar.
Mae hefyd yn gwbl ddiangen, gan fod dewisiadau di-fawn amgen o ansawdd uchel ar gael bellach - rhai mor dda fel eu bod yn rhagori ar gompostau mawn yn rheolaidd mewn treialon.
Llofnodwch ein deiseb ni’n galw ar y llywodraeth i weithredu nawr i basio deddfwriaeth yn 2026 a dod â gwerthiant mawn i ben o'r diwedd. Rydym am fynd â’r ddeiseb i garreg drws y Prif Weinidog, gan ei danfon yn bersonol i 10 Downing Street. Felly, gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed a llofnodwch nawr!